Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd

Y Penwythnos yn Gryno

Cefndir

Ym 1752, ymddeolodd Howell Harris i Drefeca ar ôl iddo fod yn teithio o gwmpas Cymru yn pregethu am 16 mlynedd. Sefydlodd gymuned, Teulu Trefeca, ymysg ei ddilynwyr. Codwyd adeiladau pwrpasol a threfnwyd amrywiaeth o grefftau a galwedigaethau er mwyn cynnal y gymuned.

Bu yna gymuned Gristnogol yn Nhrefeca ers hynny ....

a dyma beth wnaethon nhw i ddathlu 250 mlwyddiant Teulu Trefeca.

Nos Wener a Nos Sadwrn

Sioe gerdd ddwyieithog 'Teulu@Trefeca' a berfformiwyd gan blant Ysgol Talgarth ac Ysgol y Bannau

Bore Dydd Sadwrn

Dewch i Gyfarfod...
y rhai oedd yn gyfrifol am y sioe

Prynhawn Dydd Sadwrn - Prynhawn Agored

Nifer o weithgareddau gyda chysylltiad â bywyd a chyfnod y Teulu Trefeca gwreiddiol:
  • Crefftau
  • Marchogaeth
  • Llyfrau
  • Dawnsio Gwerin

Bore Dydd Sul

Oedfa ddathlu
- anerchiad gan Dr. Brynley Roberts

 
Yn Ôl Cynnwys Cartref Ymlaen

Last updated 16/8/2002