Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd |
Mewn sesiwn ddiddorol dros ben fore Sadwrn, roedd cyfle i ni drafod y sioe o wahanol safbwyntiau.
Siaradodd Mr. Herbert Hughes am gymhlethdod cymeriad Howell Harris.
Disgrifiodd y cynhyrchwyr sut y datblygodd fersiwn derfynol y sgript trwy gydweithrediad rhwng yr awdur, y cynhyrchwyr a'r plant eu hunain.
Y pwynt pwysicaf a gododd o'r drafodaeth oedd sut gallwn ni ddefnyddio yr un math o dechneg i gyfleu ein ffydd mewn dull cyfoes a pherthnasol, nid yn unig i blant ond i oedolion hefyd.