Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd

Teulu@Trefeca

Am saith o'r gloch ar ei ben, cerddodd rhes o blant yn dawel a hyderus ar lwyfan y babell fawr yng ngerddi Coleg Trefeca. Aethant i'w lleoedd a chanu cân gynta'r sioe gerdd ddwyieithog 'Teulu@Trefeca'. Y sioe hon oedd uchafbwynt penwythnos dathlu 250 mlynedd Teulu Trefeca.

Roedd y babell bron yn llawn ar y ddwy noson, ac roedd y gynulleidfa wedi cynhesu at y perfformwyr ifanc, ac yn eu cefnogi bob cam o'r daith. Syniad canolog y sioe oedd cyfarfod rhwng bachgen sy'n chwilio am wybodaeth am Deulu Trefeca ac Evan Moses, un o aelodau gwreiddiol y Teulu - mewn ystafell sgwrsio dros y we. Symudai'r sioe yn gyflym o gân i hanes i sgets. Ymddangosodd pob arweinydd crefyddol pwysig o'r ddeunawfed ganrif, yn ogystal â Chris Tarrant ac Anne Robinson o'r ganrif hon.

 
Yn Ôl Cynnwys Cartref Ymlaen

Last updated 8/8/2002