Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd

Sawl gwaith allwch chi ganu yr un gân gyda brwdfrydedd?

tele01b

Daeth cwmni teledu Elidir i Drefeca ar 14 Mai i recordio un neu ddwy o ganeuon ar gyfer y gyfres Dechrau Canu, Dechrau Canmol.

Roedd yr ystafell yn llawn o gamerâu, meicroffonau, goleuadau, peiriannau recordio, cynhyrchwyr, technegwyr, athrawon, cerddorion a'u hofferynnau. Doedd dim llawer o le i'r plant! Trefnwyd y plant yn dair rhes; roedd y rhai yn y cefn yn sefyll ar feinciau. Arhoson nhw yn eu lle am o leiaf awr a hanner heb gwyno.

Canon nhw’r gân gyntaf unwaith i ymarfer. Wedyn unwaith neu ddwy i recordio'r sain, a thair gwaith eto i recordio'r lluniau.

Wedyn, gwnaethon nhw yr un peth gyda'r ail gân.

Yn ôl at y gân gyntaf wedyn, er mwyn ffilmio'r piano, y gitâr a’r bas a oedd yn darparu cyfeiliant i'r canu.

Trwy gydol y bore, roedd y canu’n wych. Roedd y plant yn canu mewn tiwn, ac yn geirio’n glir. Roedd llawer o frwdfrydedd - a gwenu mawr.

Yn y diwedd, penderfynodd y cynhyrchydd ddefnyddio’r ddwy gân yn y rhaglen a ddarlledwyd ar yr 2il o Fehefin.

Roedd e’n berfformiad ardderchog, ond doedd y gwaith ddim ar ben. Ar ôl cinio, roedd rihyrsal arall!

 

tele01b    tele01b

 
Yn Ôl Cynnwys Cartref Ymlaen

Last updated 16/8/2002