Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd

Cyfweliad gyda Aled Lewis Evans

aled1b.jpg Ces i gyfle i gael sgwrs gyda Aled pan ddaeth e i Drefeca i recordio cyfweliad ar gyfer y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol, a chyfle i weld rihyrsal o’r sioe ar yr un pryd.

Gwreiddiau ‘Teulu@Trefeca’

Bu Aled Lewis Evans yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Wrth ddysgu Cymraeg, Saesneg a Drama yno, ysgrifennodd nifer o bethau a berfformiwyd gan ei ddisgyblion, yn cynnwys gwaith yn seiliedig ar fywyd Dana, y gantores o Iwerddon.

Roedd e’n aelod yng Nghapel y Groes, Wrecsam a chafodd gyfle i ymweld â Threfeca o bryd i'w gilydd. Roedd e'n fodlon iawn ysgrifennu drama i ddathlu 250 mlwyddiant Teulu Trefeca.

Ar ôl derbyn y gwahoddiad, treuliodd wythnos o wyliau yn y Mwmbwls, ger Abertawe, gyda phensil a llyfr nodiadau yn ysgrifennu'r ddrama gerdd ‘Teulu@Trefeca’.

O ran y gerddoriaeth, fe ysgrifennodd y geiriau i un o'r caneuon sef Deimli di'r Rhin, a daeth o hyd i ganeuon addas eraill. Roedd yr holl sgript wreiddiol yn Gymraeg.

Cafodd y sgript ei chyfieithu a’i haddasu, ac roedd Aled yn fodlon iawn ar sut roedd pethau wedi datblygu. Roedd ei fwynhad yn amlwg wrth weld y criw brwdfrydig o blant yn dod â’i syniadau yn fyw. aled1b.jpg

Egwyddorion

Mae hanes Howell Harris a'i gymuned yn cael ei adrodd trwy nifer o ôl-fflachiadau. Gwneir defnydd o fwy nag un rhaglen deledu hefyd e.e.Who Wants to be a Millionnaire? a The Weakest Link. Pwrpas hynny oedd pwysleisio'r cysylltiad rhwng byd Howell Harris a'n byd cyfoes ni.

Beth nesaf?

Yn anffodus, dim ond cyfle i weld un perfformiad o'r sioe a gafodd Aled, achos roedd yn rhaid iddo fynd yn ôl i Aberystwyth ble mae e wedi bod yn astudio diwinyddiaeth. Roedd yr arholiadau gradd yn dechrau’n syth ar ôl y dathliadau, ac felly, roedd yn rhaid iddo fe ddychwelyd i baratoi.

 

Fel ffordd o gyflwyno Aled Lewis Evans i'r plant, gofynnodd Mrs. Minchin, "Pwy ysgrifennodd Deimli di'r Rhin?”

Daeth yr ateb mewn chwinciad, "William Williams!"

 
Yn Ôl Cynnwys Cartref Ymlaen

Last updated 16/8/2002