Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd |
Cefais gyfle i sgwrsio gyda'r cynhyrchwyr, Siân Drinan a Stevie Atkins, yn yr egwyl rhwng y recordiad teledu a rihyrsal y prynhawn.
RihyrsalsDoedd hi ddim yn bosib dechrau ymarfer cyn mis Chwefror, achos roedd Siân yn brysur iawn gyda geni ei baban, Berwyn. Byddai Berwyn yn mynychu’r rihyrsals yn rheolaidd ac yn gwenu o glust i glust ar bawb. Ar y dechrau, ni ddefnyddiwyd y sgript o gwbl, ond cynhaliwyd cyfres o weithdai er mwyn datblygu symudiadau, gwneud gwaith byrfyfyr, ennyn ymddiriedaeth y plant yn ei gilydd, a chanu. Yn y lle cyntaf, roedd y rihyrsals yn cael eu cynnal yn y ddwy ysgol ar wahân ac wedyn gyda'i gilydd yn Ysgol y Bannau. O'r cychwyn, cymysgai’r plant â’i gilydd yn dda. Dewis plant i’r gwahanol rannau oedd canlyniad naturiol y gweithdai hyn. |
Stevie, Siân a Berwyn |
Roedd yna egwyddorion pywsig
Yn y diwedd, roedd cymaint o'r plant eisiau chwarae rhan o bwys nes y bu'n rhaid ysgrifennu geiriau ar gyfer rhai cymeriadau! Roedd yn rhaid trefnu dau grŵp hefyd; roedd pawb ar y llwyfan y ddwy noson, ond roedd y rhai a chwaraeodd ran bwysig nos Wener yn y cefndir nos Sadwrn.
Gan fod dau fersiwn o'r sgript ar gael, sef fersiynau Cymraeg a Saesneg, doedd dim problem i'r cynhyrchwyr drefnu rihyrsals gyda chymorth yr athrawon. Defnyddiwyd Cymraeg a Saesneg yn y rihyrsals, a theimlodd pawb bod eu Cymraeg wedi gwella!