Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd |
Mae sgript "Teulu@Trefeca" ar gael mewn pedair ffurf:
Ysgrifennodd Aled Lewis Evans y sgript wreiddiol yn Gymraeg, gan fwriadu iddi gael ei pherfformio gan bobl ifanc yn eu harddegau a dauddegau.
Cafodd y sgript ei chyfieithu i Saesneg gan Herbert Hughes.
Ar ôl penderfynu gwahodd ysgolion cynradd i gymryd rhan, roedd yn rhaid i'r cynhyrchwyr symleiddio'r sgript. Saesneg oedd eu fersiwn newydd hwy.
Ond fel y dwedodd Stevie Atkins, " Peth marw yw sgript". Yn ystod y gweithdai a'r rihyrsals, gwnaed llawer o newidiadau pellach - rai ohonynt yn dilyn awgrymiadau gan y plant.
Ail-gyfieithwyd rhannau o'r sgript newydd gan Eifiona Roberts.