Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd |
Un o weithgareddau'r Teulu Trefeca gwreiddiol oedd argraffu llyfrau. Yn ystod y prynhawn agored, felly, roedd yn briodol lawnsio llyfrau gyda chysylltiad cryf â'r Teulu presennol.
Mae'r llyfr Dy Garu a'th Drysori ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Fe’i paratowyd dan nawdd y Grwp Addoli a Litwrgi a alwyd ynghyd gan Goleg Trefeca.
Bwriedir priodas fel perthynas rhwng dau berson lie mae bywydau'n cael eu llunio a'u hail-lunio gan gariad a maddeuant a llawenydd. Yn ein cymdeithas gyfoes, gall priodas hefyd fod yn fan lle profir poen a dioddefaint, lle caiff bywydau eu cyffwrdd yn y mannau dyfnaf gan drais a chreulondeb. Mewn cymdeithas o amrywiaeth crefyddol ac o absenoldeb ffydd, gall priodas fod yn sianel cyfarfod a dathiu rhwng personau, teuluoedd a chymundeau sydd â ffydd wahanol i'w gilydd neu sydd heb ffydd. Bwriedir Dy Garu a'th Drysori fel casgliad o adnoddau ar gyfer y sawl sydd am ddod o hyd i ffyrdd personol a chyfoethog o ddathiu priodas yng nghyd destun yr ystod eang hon o brofiadau. Fe'i hysgrifenwyd yn feddylgar a sensitif. Y mae'n ecwmenaidd ei berspectif yn yr ystyr ehangaf ac yn dwyn at ei gilydd gyfoeth o brofiadau o draddodiadau Cristnogol gwahanol ac ymdrechion i ddod o hyd i ffyrdd o ddathlu priodas yng nghyd-destun traddodiadau crefyddol eraill. O'r rhagair gan Noel A Davies |
Y llyfr arall a lawnsiwyd oedd cyfres o weithdai wedi eu paratoi gan Weithgor Cenhadaeth a Litwrgi Rhanbarth Ewrop y Cyngor Dros Genhadaeth Fyd-Eang. Yn y sesiwn lawnsio, dim ond y fersiwn Cymraeg oedd ar gael, ond yn y dyfodol, bydd fersiwn Saesneg ar gael hefyd.
D.S. Roedd camgymeiriad yn y copiau ar gael ar y diwrnod. Dydy'r preis yn £5.50 ond yn £1.50 !
Rhes
gefn: Aled Davies, cyfarwyddwr cyhoeddi Cyhoeddiadau'r Gair; Meirion
Lloyd Davies - yn gyfrifol am yr addasiad Cymraeg o Dy Garu a’th
Drysori; Gethin Rhys, golygydd cyffredinol, Keith Forecast,
golygydd y fersiwn Cymraeg..
Rhes flaen: Mererid Mair Williams -
yn gyfrifol am yr addasiad Cymraeg o’r gweithdai; Fiona
Liddell.