Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd |
Dylanwad crefydd ar Ddawns
yn y ddeunawfed ganrif O'r ddeunawfed ganrif ymiaen, fe ddylanwadwyd yn sylweddol ar gymdeithas wledig Cymru gan agwedd Brotestannaidd y mudiad Methodistaidd. Bu i Galfiniaeth feithrin agwedd debyg mewn rannau o'r Iseldiroedd, Ffrainc, y Swistir a'r Almaen. Credai'r diwygwyr crefyddol fod y fath oferedd, pa mor ddiniwed bynnag, yn tynnu sylw pobl oddi wrth feithrin eu bywyd ysbrydol. Pan gyhoeddodd y gweinidog Rhys Prydderch restr o ddeuddeg pechod ym 1714, y gyntaf ar y rhestr oedd dawnsio cymysg. Ysgrifennodd Williams Prynne "Dancing is to be abandoned by all good Christians". Gan fod y capel yn elfen bwysig yn y bywyd Cymraeg, llwyddodd i fwrw'r defodau traddodiadol o'r neilltu, i'r graddau i Edward Jones ysgrifennu ym 1802, "Wales, which was formerly one of the merriest and happiest countries in the world, is now become one of the dullest". Yn ffodus, daeth Abram Wood â chanwyr ffidil o sipsiwn o'r Iwerddon i Gymru tua 1730. Cymeron nhw yn frwd at yr alawon Cymreig a chadw'r alawon traddodiadol yn fyw, gan eu canu ar y ffidil yn eu cartrefi. Yr oedd croeso o hyd i gerddorion teithiol mewn llawer ardal, a chynhelid Noson Lawen mewn tafarn leol neu ffermdy, ble gailai'r dawnswyr clocsen ddangos eu doniau. Felly ni pheidiodd dawnsio clocsen erioed. Dawn Webster |