Teulu Trefeca - Dathlu 250 Mlynedd

Yr Oeddfa Ddathlu

Fore Sul yn ei anerchiad yn yr Oedfa Ddathlu, rhybuddiodd Dr. Brynley Roberts ni, wrth edrych ymlaen neu yn ôl, rhag colli ein hymdeimlad o 'nawredd Duw' [God's nowness]. Y peth pwysicaf i'w ddathlu oedd y parhad - nid dathlu beth oedd wedi digwydd yn y gorffennol na beth sy'n debyg o ddigwydd yn y dyfodol. Mae gennym lawer i'w ddysgu gan Deulu Trefeca, oherwydd cymuned yw calon y bywyd Cristnogol.

Ar ôl yr anerchiad, canodd Mererid Mair Williams un o ganeuon 'Teulu@Trefeca', sef 'Deimli di'r rhin?'. Yn y sioe, canwyd hi'n fywiog gan y plant, ond canodd Mererid hi yn araf ac yn fyfyrgar.

 
Yn Ôl Cynnwys Cartref Ymlaen

Last updated 25/7/2002